 |
- defnyddio rheolwr y sgrîn gyffwrdd, gwneud galwadau |
 |
- rheoli camerâu'r stiwdio |
 |
- arddangos dogfennau |
 |
- rheoli'r taflunydd |
 |
-
defnyddio VCR y stiwdio |
 |
- mae un o'r rhain ymhob stiwdio fawr |
 |
- cysylltu gliniadur ar gyfer anfon cyflwyniadau, ac yn y blaen |
 |
-
defnyddio NetMeeting® Microsoft® i ddangos cyflwyniadau (y ffordd sy'n cael ei hargymell i rannu
dogfennau) |
 |
- ar gyfer y rhai sydd wedi prynu stiwdio
'Gryno' (lle ceir adnoddau fideogynadledda sylfaenol yn unig) |
 |
- defnyddio'r bwrdd gwyn, arddangos cyflwyniadau PowerPoint®
Microsoft® |
 |
-
sut i uwchlwytho a defnyddio See and Share
|
Mae cyfres o fodiwlau hyfforddi cyflwyniadol hefyd ar gael. Mae'r rhain yn cyd-fynd â'r gyfres o gyfarwyddiadau a restrir uchod.
Mae tudalen ar gyfer 'Hyrwyddwyr' Technoleg Gwybodaeth ac Addysgu yn cynnwys cysylltiadau i
gyflwyniadau, cysylltiadau ac astudiaethau
achos.
Cysylltau Llogi
Sylwch os gwelwch yn dda fod nifer o
sefydliadau wedi apwyntio cysylltiadau llogi, sydd yn gyfrifol
am logi yr holl gynadleddau fideo. Mae'r manylion ar gael ar y
dudlaen Gwybodaeth
Llogi Stiwdio.
Rhoi Gwybod am Diffygion
Os ydych yn dymuno rhoi gwybod am unrhyw ddiffyg, cysylltwch â'r Ganolfan Gefnogi ar 01792 295700 neu ar e-bost
support@wvn.ac.uk
Cynnydd Comisiynu Stiwdio
Mae rhestr ddiweddaraf o stiwdios ar gael , yn dangos y cynnydd o ran eu comisiynu.
Polisi Defnydd Derbyniol
Mae disgwyliadau'r Cynghorau Cyllido mewn perthynas â stiwdios fel a ganlyn:
Mae'r cyfleusterau
- i fod ar gael yn bennaf oll ar gyfer fideogynadledda
- i'w llogi'n unig drwy System Logi Gwasanaeth Fideogynadledda JANET (JVCS)
- i lwyddo'n rheolaidd mewn profion Derbyn Sicrwydd Ansawdd JVCS
Darperir cyfarpar ar y ddealltwriaeth y cyfarfyddir â'r disgwyliadau hyn.
Os llogir y stiwdios i bwrpas heblaw fideogynadledda rhaid iddynt gael eu llogi drwy System Logi JVCS yr un peth, a dylid eu dangos fel stiwdios nad ydynt ar gael. Mae hyn yn sicrhau na chaiff un cyfleustra'i logi ddwywaith. Mae system Logi JVCS yn seiliedig ar y we ac nid yw wedi'i hintegreiddio i systemau llogi ystafelloedd unrhyw sefydliad.
Wrth ddefnyddio unrhyw rai o'r gwasanaethau JANET, gan gynnwys y JVCS ar gyfer fideogynadleddau amlbwynt, bydd yn rhaid i sefydliadau lynu wrth Bolisi Defnydd Derbyniol JANET
http://www.ja.net/services/publications/policy/aup.html
(fel y gwnânt gyda holl wasanaethau cyfredol JANET).
|