|
Adolygiadau o Rwydwaith Fideo Cymru (RhFC)
|
|
Ym 1999, comisiynwyd Cymdeithas
Rhwydweithio Addysg ac Ymchwil y Deyrnas Unedig
(UKERNA), a elwir bellach yn JANET (DU), gan Gyngor
Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chyngor Cyllido
Addysg Bellach Cymru (CCABC), sef Adran Plant,
Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth y
Cynulliad (APADGOS) bellach, i gynnal astudiaeth
fanwl yn ymwneud â'r defnydd o fideogynadledda yn y
sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yng Nghymru
a'r defnydd posibl ohono yn hyn o beth (http://www.wvn.ac.uk/study/welshvid.pdf).
Argymhellodd UKERNA sefydlu
Rhwydwaith Fideo Cymru (RhFC) ac yn ystod 2000
comisiynwyd gwasanaeth RhFC gan y Cynghorau Cyllido
gyda chymorth ariannol gan Gronfa Datblygu
Rhanbarthol Ewrop (ERDF).
Ers 2000, cafwyd tair astudiaeth annibynnol o RhFC,
'Review of the Video Services Network' (2005),
'Welsh Video Network Looking to the Future' (2007),
a ‘The Future of the Welsh Video Network Support
Centre’ (2009). |
‘The Future of the Welsh Video Network Support Centre’ (2009)
Ym mis Chwefror 2009, dewiswyd OldBell3, mewn cydweithrediad â
Dateb ac Enid O’Shea, gan CCAUC ac APADGOS i gynnal astudiaeth i
ymchwilio i effaith, cryfderau a gwendidau Canolfan Gymorth
RhFC, gan argymell a ddylid parhau i ddarparu gwasanaeth ac
argymell modelau ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol, os
yw'n briodol. Defnyddiodd yr ymgynghorwyr gyfuniad o waith
ymchwil yn seiliedig ar waith desg, adolygu dogfennau a gwaith
maes i lunio 12 o argymhellion, a gyhoeddwyd yn eu hadroddiad.
Cafodd yr adroddiad terfynol ei gwblhau a'i gyflwyno i'r cyrff
ariannu ym mis Mehefin 2009.
Roedd y prif argymhellion ar gyfer y Rhwydwaith fel a ganlyn:
-
Dylai
APADGOS a CCAUC ymrwymo i ddarparu arian craidd parhaus i
Ganolfan Gymorth RhFC am y tair blynedd nesaf, gydag opsiwn
i ymestyn i ddwy flynedd arall
-
Dylai
APADGOS a CCAUC weithio gyda Thîm Gwireddu Buddiannau
Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) i
ddod â Chanolfan Gymorth RhFC o dan nawdd y PSBA cyn gynted
ag sy'n ymarferol
-
Dylai
APADGOS
a CCAUC weithio gyda thîm y PSBA, Canolfan Gymorth RhFC ac
Awdurdodau Lleol i asesu'r goblygiadau o ran adnoddau a
fyddai'n gysylltiedig ag ehangu'r gwasanaeth a ddarperir ar
hyn o bryd i SAU a SAB i bob ysgol er mwyn pennu dyraniad
'arian craidd' tair blynedd dangosol ar gyfer Canolfan
Gymorth RhFC
-
Dylai
Canolfan Gymorth RhFC fod yn gyfrifol am roi cyngor i
sefydliadau ar yr atebion fideogynadledda mwyaf priodol
iddynt hwy
· Mae'r
adroddiad ‘The Future of the Welsh Video Network Support Centre’
ar gael i'w lawrlwytho mewn fformat pdf Adobe® Acrobat® drwy
glicio ar enw'r adroddiad.
'Welsh Video Network
Looking to the Future' (2007)
Ym mis Rhagfyr 2006 comisiynwyd y Sefydliad Cenedlaethol er
Ymchwil i Addysg (NFER) i baratoi adroddiad yn seiliedig ar
ddata cyfredol a gasglwyd gan sefydliadau addysg bellach ac
addysg uwch yng Nghymru ar y defnydd presennol o fideogynadledda
a'r defnydd posibl ohono yn y dyfodol. Comisiynwyd y gwaith
ymchwil hwn gan UKERNA, ar gais CCAUC ac Adran Addysg, Dysgu
Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS)* Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyflwynodd NFER ei adroddiad ar ddechrau 2007.
Defnyddiodd NFER gyfweliadau
wyneb yn wyneb a grwpiau ffocws i gasglu data, ynghyd ag arolwg
dros e-bost.
Daeth NFER i nifer o
gasgliadau sef:
-
Dylid
diweddaru offer y stiwdio, gan gadw'r stiwdios fel ag y
maent ac ychwanegu swyddogaethau ychwanegol
-
Roedd
fideogynadledda yn dechrau datblygu fel dull o ddarparu
cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg
-
Roedd
rôl Canolfan Gymorth RhFC yn ganolog i'r gwaith o gynnal
system fideogynadledda ddidrafferth yng Nghymru
-
Roedd
gwaith y cynghorwyr addysgu a dysgu, er ei fod megis
cychwyn, yn cael effaith drwy godi ei broffil a datblygu
gallu staff
-
Roedd
y defnydd o fideogynadledda yn datblygu lle yr oedd uwch
reolwyr yn ymrwymedig i'w ddatblygu
Mae'r adroddiad ‘Welsh
Video Network Looking to the Future’
ar gael i'w lawrlwytho mewn fformat pdf Adobe® Acrobat® drwy
glicio ar enw'r adroddiad.
'Review of the Video
Services Network' (2005)
Bum mlynedd ar ôl comisiynu prosiect RhFC, ar ddechrau 2005,
comisiynwyd NFER gan CCAUC a Dysgu ac Addysgu Cymru (ELWa)* i
gynnal adolygiad gwerthusol annibynnol o RhFC. Ym mis Mai 2005
cyflwynodd NFER eu hadroddiad terfynol i'r Cynghorau Cyllido.
Cynhaliodd NFER grwpiau ffocws, cyfweliadau wyneb yn wyneb ac
arolygon dros e-bost i gasglu safbwyntiau cynrychiolwyr o'r
sector Addysg Uwch a'r sector Addysg Bellach ledled Cymru. Yn
ei adroddiad, nododd NFER fuddiannau allweddol RhFC ynghyd â'r
prif ffactorau a arweiniodd at y patrwm defnydd presennol.
Daeth NFER i'r casgliad
canlynol:
-
Roedd
RhFC yn hwyluso cyfarfodydd yn effeithiol iawn ac roedd
ganddo'r potensial i effeithio ymhellach ar ddulliau addysgu
a dysgu
-
Mae'r
defnydd o RhFC wedi cadarnhau'r galw a ragwelir am y
dechnoleg
-
Roedd
cydnawsedd ei holl stiwdios yn tanategu llwyddiant RhFC
-
Byddai'r
penderfyniad i ddefnyddio system fideogynadledda dros y
rhyngrwyd yn parhau i gynnig arbedion cost i sefydliadau
-
Roedd
sefydlu Canolfan Gymorth RhFC a reolir gan UKERNA wedi bod
yn hanfodol i sicrhau cadernid y rhwydwaith
Mae'r adroddiad, ‘A
Review of the Video Services Network’,
ar gael i'w lawrlwytho mewn fformat pdf Adobe® Acrobat® drwy
glicio ar enw'r adroddiad.
* Adran Plant,
Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) Llywodraeth
Cynulliad Cymru erbyn hyn

|