Pinacl a Rhoche yn ennill contractau!Ar Fawrth 22, 2001 llofnododd UKERNA gontractau a gosododd archebion gyda Systemau Cyfathrebu Pinacl Cyf. i gyflenwi cyfarpar fideogynadledda a byrddau gwyn electronig rhyngweithiol, a Systemau Clywedol Roche Cyf. i gyflenwi taflunyddion. Mae Pinacl, a leolir yng Ngogledd Cymru, yn cyflenwi datrysiad integredig yn seiliedig ar CODEC s fideogynadledda PictureTel 970 ar gyfer yr 80 stiwdio fideogynadledda ledled Cymru. Gweithgynhyrchir systemau rheoli'r stiwdio gan Crestron, a'r cyfarpar rhwydweithio gan Cisco. Mae cyfarpar arall yn cynnwys byrddau gwyn rhyngweithiol oddi wrth Egan, camerâu dogfennau oddi wrth Elmo, VCRs oddi wrth Samsung a Chyfrifiaduron Personol sy'n Rhannu Data a Chymhwysiadau oddi wrth Dell. Mae Roche yn cyflenwi taflunyddion data Hitachi ar gyfer pob stiwdio. Mae Pinacl a'r prif bartneriaid PictureTel, Crestron a Cisco, i gyd yn eiddgar ymrwymedig i ddatblygu Rhwydwaith Fideo Cymru. Dylai'r bartneriaeth newydd bwysig hon gydag UKERNA a'r sector addysg, alluogi Cymru i aros ar flaen cad datblygiadau fideogynadledda IP ac arwain at wasanaeth fideogynhadledda IP cenedlaethol ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng Nghymru o fewn dwy flynedd. Dr Robert Symberlist
|