|
|
Fideogynhadledda ISDN (H.320)Mae ISDN (Gwasanaethau Integredig Rhwydwaith Digidol - Integrated Services Digital Network) yn ddull cadarn a diogel o ddarparu cysylltiadau fideogynadledda o ansawdd uchel rhwng safleoedd. Mae'r Safon H.320 yn diffinio ISDN. Ar y dechrau, bydd pob sefydliad sydd yn rhan o Rwydwaith Fideo Cymru yn defnyddio cysylltiadau ISDN6 i mewn i'r stiwdios. Bydd hyn yn darparu ystod 384Kdid/au neilltuedig ar gyfer fideogynadleddau. Darparwyd cyllid ar gyfer gosod cyfleusterau ISDN6 i bob sefydliad. Mae gan sefydliadau rai dewisiadau o ran sut y byddant yn dewis gosod cysylltiadau ISDN yn y stiwdios: gallai cyflenwr ISDN osod socedi ISDN yn uniongyrchol i mewn i'r stiwdios; gallent ei gosod i fae clwt canolog; neu fe ellid ei osod drwy gyfnewidfa ffôn y sefydliad - os oes gan y gyfnewidfa'r gallu hwn. Bydd angen i sefydliadau siarad â'u cyflenwr/wyr i arfarnu'r dewis gorau ar gyfer eu hamgylchiadau arbennig hwy. Mae angen i sefydliadau ddarparu tri cylched ISDN2e safonol er mwyn i'r cyfarpar fideogynhadledda allu gweithredu'n gywir. Darperir gwasanaethau switsio amlbwynt ar gyfer y rhwydwaith ISDN gan Wasanaeth Fideogynadledda JANET, leolir yng Nghaeredin. Gweler http://www.jvcs.video.ja.net am fwy o wybodaeth. Bydd y Ganolfan Gefnogi yn rheoli'r sefydliad, y safle, y lleoliad a'r cofrestriad CODEC i'r canolfannau hynny nad ydynt eisoes wedi'u cofrestru gan JVCS.
|