CefndirMae pob sefydliad Addysg Bellach (AB) ac Addysg Uwch (AU) yng Nghymru ar fin dod yn rhan o rwydwaith fideo cenedlaethol integredig.
|
|
| Y prosiect uchelgeisiol a chyffrous hwn, a ariennir hyd at £3.1M gan Dysgu ac Addysgu Cymru (ELWa) ac at £2.4M gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), yw'r cyntaf o'i fath yn y DU i ymwneud â'r sector AB â'r sector AU gyda'i gilydd. |
|
|
Tynnwyd sylw at y galw am rwydwaith fideogynadledda cenedlaethol ar gyfer AU mewn adroddiad gomisiynwyd gan Benaethiaid Addysg Uwch yng Nghymru ym 1998. Ym 1999 cynhaliodd Cymdeithas Rhwydwaith Addysg ac Ymchwil y Deyrnas Unedig (UKERNA) astudiaeth fanwl bellach yn cwmpasu'r ddau sector ar gyfer ELWa ( Cynghorau Ariannu Cymru ar y pryd). Darparodd yr astudiaeth hon dystiolaeth bellach o'r galw am rwydwaith fideo integredig cenedlaethol yn cynnwys y sectorau Addysg Bellach ac Uwch. Dangosodd yr astudiaeth hefyd, tra bod fideogynadledda pen desg yn cael ei ddefnyddio'n eang yn sectorau Addysg Bellach ac Uwch dim ond pum Sefydliad Addysg Uwch oedd â stiwdios fideogynadledda neilltuedig. Mae'n amlwg bod y ddau sector yn awyddus i ddatblygu eu defnydd o fideogynadledda, yn enwedig ar gyfer dysgu ac addysgu o hirbell. Felly, ffocws y prosiect hwn yw darparu o leiaf 80 o stiwdios fideo o ansawdd uchel ar y rhwydwaith ar gyfer pob sefydliad yng Nghymru. Mae ELWa wedi contractio rheolwyr y prosiect i drosglwyddo'r rhwydwaith i UKERNA. Sefydlwyd Canolfan Gefnogi Rhwydwaith Fideo Cymru gyda staff wedi'u lleoli yn Abertawe ac Aberystwyth, gan ddefnyddio'r un model â Chanolfan Gefnogi Ranbarthol Cymru. Mae cyfarpar ar gyfer y stiwdios, a ddarperir fel rhan o gaffael canolog, yn cynnwys:
Ar y dechrau, bydd y rhan fwyaf o alwadau fideogynadledda yn defnyddio ISDN (ISDN2 neu ISDN6). Sefydlwyd cyllideb prisiau galwadau canolog ar gyfer y sector AB. Rheolir a llogir holl cynadledd ISDN drwy Wasanaeth Fideogynadledda JANET (JVCS) sydd bellach wedi hen ennill ei blwyf. Er mwyn defnyddio'r JVCS, rhaid i stiwdios lwyddo mewn prawf Sicrwydd Ansawdd. Wrth i'r prosiect fynd rhagddo gwneir trawsnewidiad at ddefnyddio'r IP ar gyfer fideogynadledda, yn cael ei gefnogi'n lleol drwy Ganolfan Gefnogi RhFC. Fel rhan o brosiect RhFC sefydlwyd Grðp Cysylltiadau gyda chynrychiolwyr o bob sefydliad ar draws Cymru. Mae'r grðp yn cyfarfod yn rheolaidd mewn Diwrnodau Briffio Prosiect. Sefydlwyd yn ogystal nifer o restrau trafodaeth e-bost sy'n hwyluso taenu gwybodaeth ac yn darparu ffordd effeithlon i reolwyr safle dynnu sylw at broblemau neu faterion. Sefydlwyd hefyd Grðp Dadrolio RhFC. Mae hwn yn cynnwys aelodau o'r sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch, y Rhwydweithiau Rhanbarthol Ardal ac UKERNA. Pwrpas y Grðp Dadrolio yw monitro comisiynu'r stiwdios, darparu fforwm ar gyfer trafod materion ehangach megis rhwydweithio rhanbarthol a gwneud argymhellion i'r Rheolwr Prosiect ynghylch trefnu a chynnal y stiwdios. |
|