|
|
|||||||||||
| Croeso | Canolfan
Gefnogi: 01792 295700 |
||||||||||
Mae gwaith Rhwydwaith Fideo Cymru yn cynnwys dosbarthu a cefnogi stiwdios fideogynhadledda a chyfleusterau fideo eraill i bob sefydliad Addysg Bellach ac Addysg Uwch ledled Cymru. Gall yr offer weithredu drwy rhwydweithiau H.320 (ISDN) a H.323 (IP). Mae Rhwydwaith Fideo Cymru ymysg un o’r rhwydweithiau mwyaf uwchraddol yn y byd. Mae manylion pellach am gefndir y prosiect ar gael os dymunir. Rheolir y prosiect gan JANET(UK) dan gytundeb i Adran Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) Llywodraeth Cynulliad Cymru a Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae’r prosiect yn un o’r mwyaf o’i fath i gynnwys cydweithio rhwng sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Ariannir rhan o’r prosiect gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop (GDRE) ac yr oedd hefyd y brosiect cyntaf i dderbyn arian gan y rhaglen Amcan 1. Yn ystod y pedair mlynedd ddiwethaf ychwanegwyd 27 stiwdio newydd i’r Rhwydwaith Fideo Cymru drwy’r prosiect Fideogynhadledda cyfrwng Cymraeg. Sefydlwyd offer fideogynhadledda mewn ysgolion dwyieithog a cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Maent yn ei galluogi i gynnig dewis mwy eang i ddysgyblion chweched dosbarth a hefyd i rhannu medrusrwydd ac adnoddau, ac i ddatblygu sgiliau addysgu hyblyg. Sefydlir 4 stiwdio pellach yn ystod yr hâf 2008.
|
|
||||||||||